Cofnodion cryno - Y Pwyllgor Deisebau


Lleoliad:

Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd

Dyddiad: Dydd Mawrth, 9 Hydref 2018

Amser: 09.00 - 10.52
Gellir gwylio’r cyfarfod ar
Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/
5066


------

Yn bresennol

Categori

Enwau

Aelodau’r Cynulliad:

David J Rowlands AC (Cadeirydd)

Rhun ap Iorwerth AC

Janet Finch-Saunders AC

Mike Hedges AC

Tystion:

Simon Green, Bridgend Coalition for Disabled People

Helen Fincham, Bridgend Coalition for Disabled People

Rhian Davies, Prif Weithredwr, Anabledd Cymru

Anita Davies, RNIB

Staff y Pwyllgor:

Graeme Francis (Clerc)

Kayleigh Imperato (Dirprwy Glerc)

Kathryn Thomas (Dirprwy Glerc)

 

<AI1>

1       Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. Cafwyd ymddiheuriadau gan Neil McEvoy.

</AI1>

<AI2>

2       Deisebau newydd

</AI2>

<AI3>

2.1   P-05-833 Gwella gwasanaethau rheilffordd i Gas-gwent

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu yn ôl at Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth i ofyn am ragor o fanylion am gynlluniau ar gyfer y dyfodol mewn perthynas â gorsaf Cas-gwent, a pham na ellir cyflawni'r cynnydd arfaethedig yng ngwasanaethau Masnachfraint Cymru a'r Gororau o aros yng Nghas-gwent tan fis Rhagfyr 2022.

 

</AI3>

<AI4>

2.2   P-05-834 Dylai Pob Ysgol Fod yn Ysgol Cyfrwng Cymraeg ac Addysgu Hanes Cymru.

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i aros i glywed barn y deisebydd ar ymateb Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg cyn penderfynu a ddylid cymryd camau pellach ynghylch y ddeiseb. Wrth wneud hynny, roedd y Pwyllgor am gael rhagor o wybodaeth hefyd gan y deisebydd am y datganiad a wnaed yn y ddeiseb bod hanes Cymru wedi'i ysgrifennu yn Gymraeg.

 

</AI4>

<AI5>

2.3   P-05-835 Caniatáu i Yrwyr Tacsi Symud yn Rhydd i wneud Gwaith Hurio Preifat Unrhyw Le yng Nghymru

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunwyd i:

·         grwpio'r ddeiseb hon gyda deiseb P-05-775 Caewch y bwlch sy'n ymwneud â gweithio trawsffiniol ac is-gontractio yn y gyfraith trwyddedu tacsis, a'u hystyried gyda'i gilydd yn y dyfodol; ac

·         aros i Bapur Gwyn Llywodraeth Cymru ar gynigion i ddiwygio trwyddedu cerbydau hurio preifat a thacsis yng Nghymru gael ei gyhoeddi, cyn ystyried camau pellach ar y ddeiseb.

 

</AI5>

<AI6>

2.4   P-05-836 Adroddiadau ar y Bwlch Cyflog rhwng y Rhyweddau

Datganodd Mike Hedges y buddiant perthnasol a ganlyn o dan Reol Sefydlog 17.24A:

 

Mae'n adnabod y deisebydd.

 

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i aros i glywed barn y deisebydd ar yr ymateb a gafwyd gan Arweinydd y Tŷ cyn penderfynu a ddylid cymryd camau pellach ynghylch y ddeiseb.

 

</AI6>

<AI7>

2.5   P-05-837 Ynni Gwyrdd er Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol yng Nghymru

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i

ysgrifennu at y deisebwyr:

 

</AI7>

<AI8>

2.6   P-05-838 Cefnogwch y Llwybr Du o ran Ffordd Liniaru’r M4

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chadw llygad ar y ddeiseb yng ngoleuni'r gwaith craffu cynhwysfawr a roddwyd i'r mater hwn gan yr ymchwiliad cyhoeddus ac ymrwymiad Llywodraeth Cymru i gynnal dadl lawn ar y mater hwn cyn gwneud penderfyniad.

 

</AI8>

<AI9>

3       Y wybodaeth ddiweddaraf am ddeisebau blaenorol

</AI9>

<AI10>

3.1   P-05-775  Caewch y bwlch sy'n ymwneud â gweithio trawsffiniol ac is-gontractio yn y gyfraith trwyddedu tacsis

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y deisebydd a chytunodd i:

 

·         grwpio'r ddeiseb hon gyda deiseb P-05-835 Caniatáu i Yrwyr Tacsi Symud yn Rhydd i wneud Gwaith Hurio Preifat Unrhyw Le yng Nghymru a'u hystyried gyda'i gilydd yn y dyfodol; ac

·         aros i Bapur Gwyn Llywodraeth Cymru ar gynigion i ddiwygio trwyddedu cerbydau hurio preifat a thacsis yng Nghymru gael ei gyhoeddi, cyn ystyried camau pellach ar y ddeiseb.

 

</AI10>

<AI11>

3.2   P-05-736 Gwneud gwasanaethau iechyd meddwl yn fwy hygyrch

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth gan Mind Cymru a'r deisebydd a chytunodd i ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i ofyn nifer o gwestiynau yn seiliedig ar y dystiolaeth a ddaeth i law, gan gynnwys:

 

</AI11>

<AI12>

3.3   P-05-791 Diddymu contractau parcio preifat yn ysbytai Cymru

Cytunodd y Pwyllgor i gau'r ddeiseb yng ngoleuni'r ffaith y gellir parcio am ddim ym mhob ysbyty GIG yng Nghymru ers 1 Hydref 2018.

 

</AI12>

<AI13>

3.17P-05-797 Sicrhau mynediad i'r feddyginiaeth ffibrosis systig, Orkambi, fel mater o frys

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a'r deisebydd, a chytunodd i:

 

</AI13>

<AI14>

3.5   P-05-812 Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i annog ymddiriedolaethau i weithredu canllawiau NICE ar gyfer trin Anhwylder Personoliaeth Ffiniol neu gyfiawnhau pam nad ydynt yn gwneud hynny

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan fyrddau iechyd lleol a'r deisebydd a chytunodd i:

 

</AI14>

<AI15>

3.6   P-05-799 Newid y Cwricwlwm Cenedlaethol a dysgu hanes Cymru, a hynny o bersbectif Cymreig, yn ein Hysgolion Cynradd, Uwchradd a’r Chweched Dosbarth

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth gan y deisebydd a chytunodd i ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg i:

 

 

 

 

</AI15>

<AI16>

3.7   P-05-801 Rhaid achub y coed a'r tir yng Ngerddi Melin y Rhath a Nant y Rhath cyn iddi fynd yn rhy hwyr

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth gan Dŵr Cymru, Cyfoeth Naturiol Cymru a'r deisebydd a chytunodd i drefnu i gymryd tystiolaeth lafar gan y grŵp ymgyrchu a Cyfoeth Naturiol Cymru ar y mater hwn.

 

</AI16>

<AI17>

3.8   P-05-790 Mynd i'r afael â chysgu ar y stryd

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth gan y deisebydd a chytunodd i gau'r ddeiseb yng ngoleuni boddhad y deisebydd gyda'r argymhellion sy'n deillio o ymchwiliad diweddar y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau i gysgu allan.

 

</AI17>

<AI18>

3.9   P-05-758 Cerflun i Anrhydeddu Billy Boston

Cytunodd y Pwyllgor i gau'r ddeiseb yng ngoleuni'r ffaith na dderbyniwyd unrhyw ddiweddariad gan y deisebwyr am 12 mis, a'r tebygolrwydd nad oes llawer o waith craffu ymarferol y gall y Pwyllgor ei wneud i'r mater hwn. Wrth wneud hynny, dymunodd y Pwyllgor lwc i'r deisebwyr gyda'r prosiect hwn.

 

</AI18>

<AI19>

3.10P-05-742 Peidiwch â gadael i Forsythia gau

Cytunodd y Pwyllgor i gau'r ddeiseb yng ngoleuni'r ffaith nad yw'n ymddangos yn bosibl bellach i symud y ddeiseb hon ymlaen oherwydd y diffyg cysylltiad gan y deisebwyr ac effaith diwedd cyllid Cymunedau'n Gyntaf.

 

</AI19>

<AI20>

4       Sesiwn Dystiolaeth P-05-806 Rydym yn galw am roi rhif Tystysgrif Mynediad i bob safle busnes yng Nghymru, yn debyg i'r Dystysgrif Hylendid Bwyd.

Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Simon Green, Helen Fincham, Rhian Davies ac Anita Davies.

 

</AI20>

<AI21>

5       Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd ar gyfer eitem 6

Derbyniwyd y cynnig.

 

</AI21>

<AI22>

6       Trafodaeth am Sesiwn Dystiolaeth Flaenorol - P-05-806 Rydym yn galw am roi rhif Tystysgrif Mynediad i bob safle busnes yng Nghymru, yn debyg i'r Dystysgrif Hylendid Bwyd.

Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a glywyd a chytunodd i ysgrifennu at:

·         Arweinydd y Tŷ a'r Prif Chwip i roi gwybodaeth am y materion a glywyd yn ystod y sesiwn dystiolaeth a gofyn a fyddai Llywodraeth Cymru yn ystyried cynnal ymgynghoriad cyhoeddus ar y posibilrwydd o gyflwyno cynllun o'r fath. Cytunodd y Pwyllgor hefyd i fynegi pryderon ynghylch y dystiolaeth a gafwyd nad yw'r darpariaethau yn Neddf Cydraddoldeb 2010 wedi cael fawr o effaith ar wella hygyrchedd adeiladau ar gyfer pobl ag anableddau; a'r

·         Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol i fynegi pryderon ynghylch y dystiolaeth a gafwyd mai ychydig iawn o effaith o ran gwella hygyrchedd adeiladau y mae'r darpariaethau yn Neddf Cydraddoldeb 2010 wedi ei chael ar gyfer pobl ag anableddau, ac nad yw gofynion y Ddeddf yn cael eu gorfodi'n briodol.

 

</AI22>

<TRAILER_SECTION>

</TRAILER_SECTION>

<LAYOUT_SECTION>

1.FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</LAYOUT_SECTION>

<TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

2.FIELD_TITLE

</TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

<HEADING_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

</HEADING_LAYOUT_SECTION>

<TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

<COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_SUMMARY

</COMMENT_LAYOUT_SECTION>

 

<SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

2.1FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

<TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

2.2FIELD_TITLE

</TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>